Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 25 Medi 2017

Amser: 12.00 - 16.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4347


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Lee Waters AC

Tystion:

Maria Battle, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Mike Usher

Dave Rees

John Herniman

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

<AI1>

1       Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Strategaeth y Pwyllgor

1.1 Cymerodd Aelodau'r Pwyllgor ran mewn hyfforddiant fel rhan o'u paratoi ar gyfer y gwaith sydd i ddod ar graffu ar gyfrifon.

</AI1>

<AI2>

2       Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

2.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Archwiliad o Reoliadau Contractio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyda RKC Associates Ltd a'i Berchennog, a gyhoeddwyd ar 17 Gorffennaf 2017.

</AI2>

<AI3>

3       Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Carmarthenshire Energy Limited, a gyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf.

3.2 Cytunodd yr aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhoi gwybod iddo am yr Adroddiad.

 

</AI3>

<AI4>

4       Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 31 Awst 2017.

4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn.

 

</AI4>

<AI5>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

</AI5>

<AI6>

5       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

5.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

</AI6>

<AI7>

6       Papur(au) i'w nodi:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

6.2 Cytunodd y Cadeirydd i anfon copi o ymateb Llywodraeth Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

6.3 Mewn perthynas ag Eitem 6.7, Amseroedd Aros GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig, nododd yr Aelodau y cynnydd a wnaed a chytunwyd i dderbyn diweddariad pellach ar gynnydd yn ystod gwanwyn 2018.

 

 

</AI7>

<AI8>

6.1   Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (18 Gorffennaf 2017)

</AI8>

<AI9>

6.2   Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Kancoat Cyf: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Gorffennaf 2017)

</AI9>

<AI10>

6.3   Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: llythyr gan Dr Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (19 Gorffennaf 2017)

</AI10>

<AI11>

6.4   Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (25 Gorffennaf 2017)

</AI11>

<AI12>

6.5   Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (26 Gorffennaf 2017)

</AI12>

<AI13>

6.6   Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

</AI13>

<AI14>

6.7   Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (7 Awst 2017)

</AI14>

<AI15>

6.8   Gweithredu Deddf Cymru 2017: Llythyr gan y Llywydd (18 Awst 2017) a llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (17 Medi 2017)

</AI15>

<AI16>

6.9   Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif:  Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

</AI16>

<AI17>

7       Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

7.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor a nododd y bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r ymateb at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod y  gwanwyn 2018 ond yn y cyfamser, bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau a godwyd.

 

</AI17>

<AI18>

8       Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

8.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a gynhwyswyd yn adroddiad y Pwyllgor a nododd yr ymateb cadarnhaol gan y sector tai.

8.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod y  gwanwyn a Thachwedd 2018.

 

</AI18>

<AI19>

9       Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar

9.1 Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod ymateb manwl i'w lythyr ar 26 Mehefin wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru a bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi sylwadau arno.

9.2 Oherwydd pwysau amser, dywedodd nad oedd digon o amser i ystyried a thrafod yr ymatebion yn fanwl.

9.3 Cytunodd yr aelodau i drafod yr ohebiaeth hon yn ystod y cyfarfod ar 2 Hydref 2017.

</AI19>

<AI20>

10   Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflog uwch reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru 2015-16.

10.2 Gofynnodd yr aelodau i'r Cadeirydd ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn diolch iddynt am yr adroddiad ac yn gofyn bod adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys manylion am sefydliadau addysg bellach a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

 

</AI20>

<AI21>

11   Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Sesiwn dystiolaeth

11.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Len Richards, Prif Weithredwr a Maria Battle, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr  Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog.

</AI21>

<AI22>

12   Sesiwn ymadawol: Owen Evans - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

12.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gydag Owen Evans,  Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, cyn iddo adael y sefydliad.

12.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr S4C.

 

</AI22>

<AI23>

13   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

13.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI23>

<AI24>

14   Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

14.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ddychwelyd i'r mater unwaith y derbyniwyd yr adroddiad gwrth-dwyll.

14.2 Yn y cyfamser, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Brif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn tynnu sylw at bryderon y Pwyllgor ac yn ceisio sicrwydd y bydd eu cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â'r holl faterion a godwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a'r Pwyllgor.

 

</AI24>

<AI25>

15   Sesiwn ymadawol: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

15.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

1.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

1.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>